Neidio i'r cynnwys

Y broses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA)

Mae’r broses yn cynnwys sawl prif gam rheolaidd. Er bod rhai yn ei hystyried yn broses linol, mewn gwirionedd mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn broses ailadroddol. Mae’n sensitif i dystiolaeth, amserlenni ac amgylchiadau. Er enghraifft, dylid adolygu cwmpas Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn rheolaidd, gan y gall gwybodaeth newydd ddod i’r amlwg yn ystod camau diweddarach y broses.

Trawsysgrif – Proses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yng Nghymru

Nawr eich bod chi’n deall beth yw Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a pham ei fod yn bwysig, gadewch i ni archwilio sut mae’r broses yn gweithio’n ymarferol yma yng Nghymru.

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn broses hyblyg sy’n helpu i asesu sut y gallai polisi, penderfyniad neu brosiect arfaethedig effeithio ar iechyd a llesiant pobl. Nid yw’n ymwneud ag iechyd corfforol yn unig – mae hefyd yn edrych ar iechyd meddwl,  ddylanwadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.

Yng Nghymru, mae proses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn dilyn pum cam allweddol: sgrinio, cwmpasu, gwerthuso tystiolaeth, adrodd ac argymhellion, ac adolygu a myfyrio, gan gynnwys monitro a gwerthuso.

Cam 1: Sgrinio

Sgrinio yw cam cyntaf y broses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd. Mae’n helpu i benderfynu a oes angen asesiad. Mae’n ystyried effeithiau posibl cynnig ar iechyd, llesiant a thegwch, sy’n cynnwys sut y gallai gwahanol grwpiau poblogaeth gael eu heffeithio.

Cam 2: Cwmpasu

Mae’r cam cwmpasu yn helpu i osod y ffiniau — penderfynu pa mor hir y bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd yn ei gymryd, pa adnoddau sydd eu hangen, terfynau amser pwysig, a pha dystiolaeth y dylid ei chasglu a’i hadolygu.

Cam 3: Arfarnu Tystiolaeth

Mae’r cam arfarnu yn cynnwys casglu a dadansoddi tystiolaeth. Gall hyn gynnwys data meintiol ac ansoddol, ymchwil sy’n bodoli eisoes, a barn rhanddeiliaid allweddol a phobl sydd â phrofiad bywyd — yn enwedig y rhai a allai gael eu heffeithio fwyaf.

Cam 4: Adrodd ac Argymhellion

Mae canfyddiadau’n cael eu dwyn ynghyd mewn adroddiad sy’n amlinellu effeithiau tymor byr a hirdymor posibl ar bobl a’r penderfynyddion ehangach iechyd. Darperir argymhellion hefyd i leihau niwed a chynyddu’r manteision. Mae hyn yn helpu i hysbysu gwneuthurwyr penderfyniadau cyn cymryd camau gweithredu.

Cam 5: Adolygu a Myfyrio gan Gynnwys Monitro a Gwerthuso

Y cam olaf yw monitro beth sy’n digwydd ar ôl y penderfyniad. Mae gwerthusiad yn gwirio a ddilynwyd argymhellion ac a yw’r canlyniadau a fwriadwyd wedi’u cyflawni. Mae hefyd yn cefnogi dysgu ar gyfer Asesiadau o’r Effeithiau ar Iechyd yn y dyfodol.

Mae pob cam yn sicrhau bod iechyd, llesiant a thegwch yn cael eu hystyried yn y penderfyniadau sy’n llunio ein cymunedau — gan gefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chreu Cymru iachach i bawb.

I ddysgu rhagor, neu i gael mynediad at offer a chanllawiau, cysylltwch ag Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

  1. Cam 1:Sgrinio

    Ystyried a yw’r cynnig yn cael effaith ar iechyd, llesiant neu gydraddoldeb, ac os felly, ar bwy mae’n cael effaith a sut.

  2. Cam 2:Cwmpasu

    Diffinio paramedrau’r Asesiad, pa mor hir y bydd yn ei gymryd, pa adnoddau fydd eu hangen, nodi unrhyw derfynau amser, a meddwl am ba dystiolaeth y dylid ei chasglu a’i gwerthuso.

  3. Cam 3:Arfarnu tystiolaeth

    Asesu’r dystiolaeth a gasglwyd trwy ei syntheseiddio a’i dadansoddi i greu darlun o’r effaith. Gall y dystiolaeth hon gynnwys ‘llenyddiaeth lwyd’ a llenyddiaeth wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, tystiolaeth gan randdeiliaid a data neu ystadegau a gesglir fel mater o drefn.

  4. Cam 4:Adroddiadau ac argymhellion

    Creu adroddiad sy’n cynnwys amlinelliad o’r broses, canfyddiadau ac unrhyw gamau a argymhellir i gael yr effaith gadarnhaol fwyaf ac i liniaru unrhyw effaith negyddol*.

    * Sicrhau Ansawdd – Dylid ymgorffori hyn wrth greu’r adroddiad, neu ar ôl cyhoeddi. Mae’n galluogi adolygiad o’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a fydd yn rhoi sicrwydd o gynnwys, canfyddiadau a chadernid y broses.

  5. Cam 5:Adolygu a myfyrio, gan gynnwys monitro a gwerthuso

    Tynnu sylw at gerrig milltir i fesur unrhyw newidiadau mewn effaith neu i nodi a welwyd yr effeithiau disgwyliedig neu beidio, adolygu’r broses ac unrhyw effaith y gallai fod wedi’i chael ar benderfyniadau a pholisïau yn y dyfodol.

Am ragor o wybodaeth am sut i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, darllenwch y canllaw ymarferol.

Mathau o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd

Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Iechyd a gynhelir yn gymesur â chyd-destun a chymhlethdod y cynnig dan sylw. 

Defnyddir dau fath gwahanol o Asesiad yng Nghymru. Mae’n bosibl cynnal asesiad sydd rhwng y ddau fath, gan ddefnyddio elfennau o’r ddau, yn ôl natur y cynnig sy’n cael ei asesu:

  1. Asesiad Cyflym o’r Effaith ar Iechyd (asesiad ‘arferol’)
  2. Asesiad Cynhwysfawr o’r Effaith ar Iechyd

Y prif wahaniaethau rhwng Asesiad Cyflym o’r Effaith ar Iechyd (arferol) ac Asesiad Cynhwysfawr o’r Effaith ar Iechyd yw eu dyfnder, eu cwmpas, y gofynion amser, a’u defnydd o adnoddau. Yn gryno, mae Asesiad Cyflym (Safonol) yn gyflymach ac yn defnyddio llai o adnoddau nac Asesiad Cynhwysfawr, ac mae’n canolbwyntio ar roi mewnwelediadau amserol gyda chwmpas dadansoddiad culach. O’i gymharu, mae Asesiadau Cynhwysfawr yn fwy manwl, ac yn defnyddio llawer o amser ac adnoddau, sy’n caniatáu dadansoddiad manwl a chyfranogiad pobl.

Yn ôl i’r dudalen bwnc gwyddor ymddygiadol