Data ategol a thystiolaeth Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA)
Mae’r dudalen hon yn cynnwys dolenni i ffynonellau defnyddiol o ddata a thystiolaeth i helpu cefnogi eich Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd.
Data poblogaeth
-
MapDataCymru
Data sector cyhoeddus a mapiau (gwybodaeth ddaearyddol a gwasanaethau cysylltiedig)
-
Swyddfa ar gyfer Ystadegau Poblogaeth
Ystadegau poblogaeth (Cyfrifiad, cyfraddau cyflogaeth, tueddiadau’r boblogaeth ac ati)
-
Stats Cymru
Data swyddogol ar gyfer Cymru (gan gynnwys addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, poblogaeth a mudo a’r amgylchedd)
-
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mesurau amddifadedd ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru
-
Tueddiadau’r Dyfodol
Adroddiad ar dueddiadau’r dyfodol mewn 4 maes allweddol: Pobl a’r Boblogaeth Anghydraddoldebau Iechyd a Therfynau Planedol Technoleg
-
Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol
Data a chrynodebau ar gyfer pob un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol
-
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Arolwg cenedlaethol o’r boblogaeth ar ystod eang o bynciau gan gynnwys llesiant, cyllid, tai, chwaraeon a diwylliant
-
Data Cymru (WLGA)
Yn rhoi mynediad at ystod eang o ddata a chymorth i ddefnyddio data a gwaith ymchwil
-
Nomis (ONS)
Ystadegau cyflogaeth a’r farchnad lafur
Data iechyd
-
Data Rhaglen Mesur Plant
Mesuriadau taldra a phwysau plant ym mlwyddyn Derbyn. Mesur allweddol o ordewdra mewn plentyndod a phlant dros bwysau.
-
Data iechyd cyhoeddus
Data iechyd cyhoeddus ar ystod o bynciau (sgrinio, imiwneiddio, clefydau a heintiau, canser ac ati)
-
Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE)
Yn darparu canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, safonau ansawdd, adnoddau clinigol, a gwybodaeth i gleifion i wella iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU.
-
Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Polisi
Yn darparu dadansoddi, ymchwil, sylwebaeth a tharfodaeth annibynnol ar bolisïau’r Undeb Ewropeaidd.
-
All Wales Injury Surveillance System (AWISS)
Yn darparu data, dadansoddiadau ac adnoddau ar achosion a thueddiadau anafiadau ledled Cymru.
Data amgylcheddol
-
Cyfoeth Naturiol Cymru
Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol a Datganiadau Ardal
-
Cyfoeth Naturiol Cymru (arcgis)
Porth gwybodaeth amgylcheddol Cymru (llifogydd, ansawdd aer, cynefin ac ati)
-
Data amgylcheddol iechyd y cyhoedd
Gwybodaeth Iechyd yr Amgylchedd i gefnogi byrddau iechyd wrth wneud sylwadau ar geisiadau cynllunio neu ganiatâd cynllunio
Tystiolaeth a phecynnau cymorth cynllunio ac iechyd
-
Adeiladu Lleoedd Gwell
System gynllunio sy’n darparu dyfodol gwydn a mwy disglair: creu lleoedd ac adferiad ar ôl COVID-19
-
Adolygiad tystiolaeth cynllunio ofodol ar gyfer iechyd (Saesneg yn unig)
Mae’r adolygiad yn rhoi egwyddorion sydd wedi’u seilio ar dystiolaeth i gynllunwyr iechyd cyhoeddus a chymunedau lleol ar gyfer dylunio lleoedd iach
-
Cynllunio gofodol ac iechyd – rhoi ymchwil ar waith (Saesneg yn unig)
Astudiaeth sy’n edrych ar y cyfleoedd a’r heriau wrth gymhwyso egwyddorion ‘Cynllunio Gofodol ar gyfer Iechyd’
-
Cynllunio a galluogi amgylcheddau iach
Hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar iechyd, llesiant ac anghydraddoldebau. Yn cynnwys templed canllawiau cynllunio atodol (SPG)
-
Cynlluniau ac asesiadau lles lleol
Mae asesiadau llesiant yn nodi sut y bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn bodloni cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
-
Cynllun gweithredu adfer Natur
Mae’r strategaeth ar gyfer natur yn nodi ymrwymiad i wrthdroi colled bioamrywiaeth yng Nghymru
-
Gwybodaeth Gymraeg ar Atebion Seiliedig ar Natur (Saesneg yn unig))
Offeryn mapio ar gyfer ardaloedd amddifadedd i nodi cyfleoedd ar gyfer targedu llifogydd / llygredd sŵn ac ati. Gall data gael ei ddefnyddio gan Awdurdodau Lleol a datblygwyr
-
Pecyn cymorth i i asesu gwerth ased gwyrdd (Saesneg yn unig)
Set o offer cyfrifiannell i asesu gwerth ased gwyrdd neu fuddsoddiad gwyrdd arfaethedig
-
Nod datblygu cynaliadwy (Saesneg yn unig)
17 nod datblygu cynaliadwy (Cenhedloedd Unedig)
-
Fframwaith cenedlaethol mesur gwerth cymdeithasol i Gymru (Saesneg yn unig)
Fframwaith sy’n seiliedig ar weithredu i alluogi asesu cyfraniad gwerth cymdeithasol i’r Ddeddf Llesiant
-
Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl): Pecyn cymorth ar gyfer ymarfer
Pecyn cymorth i arwain y defnydd o asesiadau effaith ar iechyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol
-
Cynllunio ar gyfer iechyd a lles gwell yng Nghymru
Briff ar integreiddio cynllunio ac iechyd y cyhoedd ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio mewn awdurdodau cynllunio lleol a sefydliadau iechyd yng Nghymru.