Canllawiau Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) ar gyfer ymarfer
Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) wedi datblygu dau ganllaw ymarferol i gefnogi sefydliadau i ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yn effeithiol ac yn gyson.
Mae’r canllawiau hyn:
- Wedi’u cynllunio i fodloni anghenion cyrff cyhoeddus sydd dan ofyniad statudol i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd yng Nghymru yn ogystal ag anghenion defnyddwyr anstatudol.
- Hyrwyddo’r defnydd o ddull strwythuredig sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, un sy’n rhoi ystyriaeth i anghydraddoldebau iechyd yn ei hanfod.
- Egluro’r broses o Asesu’r Effaith ar Iechyd mewn iaith syml.
- Cynnwys dolenni at y templedi, adnoddau a rhestrau gwirio sydd eu hangen i helpu i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
Mae’r ddau ganllaw ar gael i’w lawrlwytho, gallwch eu defnyddio ar wahân neu gyda’i gilydd, yn dibynnu ar eich anghenion.
Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) 2025: Canllaw i gyrff cyhoeddus yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cymorth cam wrth gam i gyrff cyhoeddus sy’n gorfod cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd o dan reoliadau Cymru. Mae’r canllaw yn:
- Egluro’r gofynion cyfreithiol a phryd mae angen Asesiad o’r Effaith ar Iechyd.
- Nodi proses glir i’w dilyn, o’r dechrau i’r diwedd.
- Yn cynnwys offer ymarferol, templedi, ac enghreifftiau i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth a thryloywder.
Gellir gweld y canllaw hwn yma.
Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Canllaw ymarferol ar gyfer arferion gorau gwirfoddol yng Nghymru
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau ac ymarferwyr sy’n dymuno cynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’u gwirfodd fel rhan o arfer da. Mae’r canllaw yn:
- Annog y defnydd rhagweithiol o Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, gan ddilyn yr arfer gorau, i gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac o ystyried anghydraddoldebau.
- Nid yw wedi’i gyfyngu i benderfyniadau strategol yn unig, mae’n addas ar gyfer ystod o benderfyniadau.
- Mae’n amlinellu’r broses o gynnal Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ynghyd â dulliau hyblyg y gallwch eu haddasu i brosiectau, polisïau neu gynlluniau o unrhyw raddfa.
- Mae’n hyrwyddo dull cyfranogol trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi ystod eang o effeithiau cadarnhaol a rhai anfwriadol negyddol.
Darllenwch y canllaw ymarferol i asesu’r effaith ar iechyd.
Adnoddau i’ch cefnogi
Gallwch ddefnyddio’r adnoddau hyn gyda’r canllaw Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd ar gyfer ymarfer.
Yn ôl i dudalen pwnc Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA)