Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio'r fron - Eich apwyntiad asesu sgrinio’r fron

Gofynnir i tua phedair o bob 100 o fenywod ddod yn ôl am ragor o brofion ar ôl sgrinio. Mae hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gallwn roi canlyniad.

Nid canser yw’r mwyafrif o’r newidiadau sydd i’w gweld ar belydrau-x o’r bronnau, ac nid oes canser y fron ar y mwyafrif o’r menywod rydyn ni’n eu galw’n ôl. Weithiau mae angen gwneud mwy o brofion i’n helpu i benderfynu a yw’r newidiadau sydd i’w gweld ar eich mamogram yn ddiniwed neu beidio.

Efallai bydd yn cynnig rhai, neu bob un o’r profion canlynol i chi:

Mwy o famogramau arbenigol – Bydd radiograffydd yn tynnu mwy o belydrau-x o’ch bron a bydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Archwiliad o’r fron – Mae’r mwyafrif o’r menywod rydyn ni’n eu galw’n ôl yn cael cyfle i arbenigwr archwilio’u bronnau. Bydd yr archwiliad a’r mamogramau eraill yn dangos yn aml fod unrhyw newidiadau’n ddiniwed. Bydd yr arbenigwr yn tawelu’ch meddwl ac yn dweud wrthych chi a fyddwch chi angen unrhyw apwyntiadau dilynol.

Sgan uwchsain – Bydd arbenigwr yn rhoi ychydig o gel ar eich bron ac yn symud chwiliedydd plastig dros y wyneb i greu delwedd uwchsain o feinweoedd y fron.

Biopsi – Bydd arbenigwr yn defnyddio nodwydd arbennig i dynnu sampl fach o feinwe o’ch bron ac weithiau o dan eich cesail. Bydd hwn yn cael ei wneud fel arfer dan anaesthetig lleol.

Yn dibynnu ar ba brofion sydd eu hangen arnoch, mae’n bosibl y byddwch chi yn y clinig asesu am y rhan fwyaf o’r bore neu’r prynhawn. 

Mae’r mwyafrif o fenywod yn teimlo bod gwisgo top, gyda sgert neu drowsus, yn gwneud y broses yn fwy hwylus.

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi pan fyddwch chi’n dod i’r ganolfan sgrinio. Ni fydd y person hwnnw’n cael mynd i’r swît sgrinio gyda chi, ond bydd yn cael bod gyda chi pan fyddwch chi’n gweld yr ymgynghorydd.

Efallai bydd y staff yn rhoi’r canlyniadau i chi cyn i chi adael y ganolfan sgrinio, ond ni fydd canlyniadau biopsi ar gael am rai dyddiau. Cyn i chi adael y ganolfan byddwch chi’n cael apwyntiad i ddod yn ôl mewn wythnos neu ddwy i gael canlyniadau biopsi.

Dim ond ychydig iawn o’r menywod sy’n cael eu galw’n ôl fydd â chanser. Os bydd canser y fron arnoch chi byddwch chi’n cael trafod eich dewisiadau o ran triniaeth gyda’ch llawfeddyg arbenigol. Bydd nyrs gofal y fron arbenigol ar gael hefyd i fod yn gefn i chi.

Diagnosis cynnar sy’n rhoi’r cyfle gorau i fenyw wella’n llwyr. Mae’r mwyafrif o achosion o ganser y fron sy’n dod i’r amlwg yn brydlon yn cael eu trin yn llwyddiannus.

Nid yw sgrinio’n ffordd o atal canser ac fel y mwyafrif o brofion, nid yw’n gwbl gywir 100% o’r amser. Mae hyn yn golygu na fydd rhai achosion o ganser yn dod i’r amlwg. Mae hefyd yn gallu golygu y bydd rhai menywod efallai’n cael profion neu archwiliadau diangen.

Beth os oes angen triniaeth arnoch chi?

Os cewch ddiagnosis o ganser y fron, mae ei ganfod yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau o gael triniaeth lwyddiannus. Byddwn yn trafod pob opsiwn triniaeth gyda chi i’ch helpu i wneud eich penderfyniad.

Os canfyddir bod gennych chi ganser y fron, gall fod naill ai’n anymledol l neu’n ymledol.

Canser y fron anymledol

Bydd gan tua 1 mewn 5 o fenywod sydd yn cael diagnosis o ganser y fron trwy sgrinio, ganser anymledol. Mae hyn yn golygu bod celloedd canser yn y fron, ond eu bod ond wedi cael eu canfod y to mewn i’r dwythellau (tiwbiau) Ilaeth a heb ledaenu ymhellach. Gelwir hyn hefyd yn carsinoma dwythellol sefydlog (DCIS). Mewn rhai menywod, bydd y celloedd canser yn aros o fewn y dwythellau. Ond gydag eraill, byddant yn tyfu (ymledu) i’r fron amgylchynol yn y dyfodol.

Canser y fron ymledol

Bydd gan tua 4 mewn 5 o fenywod sydd yn cael diagnosis o ganser y fron trwy sgrinio, ganser ymledol. Canser yw hwn sydd wedi tyfu allan o’r dwythellau Ilaeth i mewn i’r fron amgylchynol. Bydd y rhan fwyaf o ganserau’r fron yn Iledaenu i rannau eraill.

Pun al bod y canser yn ymledol neu’n anymledol, byddwch yn cael cynnig triniaeth a gofal gan dîm o arbenigwyr canser y fron. Mae’r driniaeth yn debygol o gynnwys Ilawdriniaeth (a all olygu naill ai lympectomi neu fastectomi), radiotherapi, therapi hormonau a chemotherapi o bosibl. Gall y triniaethau hyn achosi sgil-effeithiau hirdymor.

Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth ewch i Breast Cancer Now (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9fed Chwefror 2026