Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin sgrinio llygaid diabetig - Cwestiynau cyffredinol sgrinio llygaid diabetig

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn sylwi ar unrhyw newidiadau yn fy ngolwg rhwng apwyntiadau sgrinio?

Cysylltwch â’ch optegydd neu eich meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i’ch golwg.  Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesaf.

Mae manylion optometryddion lleol ar gael yn Gofal Llygaid Cymru.

Mae fy niabetes wedi ‘lleddfu’, a oes angen i mi ddod i gael fy sgrinio?

Oes. Unwaith y byddwch wedi cael diagnosis o ddiabetes byddwch bob amser yn cael eich gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig gan y byddwch bob amser mewn perygl o ddatblygu retinopathi diabetig.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiabetes a lleddfu (Saesneg yn unig).

Ydych chi’n chwilio am gyflyrau llygaid eraill?

Na, fodd bynnag efallai y byddwn yn dod o hyd i gyflyrau llygaid eraill a all effeithio ar eich golwg. Os felly, efallai y byddwn yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid, neu’n dweud wrth eich meddyg y gallai fod angen rhagor o brofion arnoch.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025