Tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd
Tabl cynnwys:
Amdanom ni
Mae’r tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth system ac yn gweithio ar draws sectorau gyda sawl rhanddeiliad a all gael effaith ar iechyd y geg poblogaeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewnol ac allanol i greu gweledigaeth a rennir ar y cyd ar wella iechyd y geg poblogaeth Cymru.
Mae llinellau cymorth deintyddol GIG 111 Cymru yn darparu gwybodaeth am gyngor clinigol a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Mae Tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd:
- Yn darparu cyngor ac arweinyddiaeth iechyd deintyddol arbenigol ar wella iechyd y geg gan gynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd y geg
- Yn darparu cyngor a chefnogaeth neu’n dylanwadu ar bolisïau cenedlaethol sy’n ymwneud ag iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol yng Nghymru
- Yn cynghori ac yn cefnogi cynllunio gwasanaethau deintyddol strategol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol
- Yn cynghori ac yn cynorthwyo i weithredu cynlluniau gweithredu iechyd y geg lleol a chenedlaethol
- Yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer rhaglenni gwella iechyd y geg cenedlaethol
- Yn asesu statws iechyd y geg ac anghenion y boblogaeth
- Yn arwain y rhaglen epidemioleg ddeintyddol genedlaethol yng Nghymru
- Yn cynghori Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd a rhanddeiliaid eraill ar wella systemau ansawdd a diogelwch deintyddol yng Nghymru
- Yn cefnogi rhanddeiliaid i integreiddio gwella ansawdd wrth ddarparu gwasanaethau deintyddol
- Yn cynghori ac yn cefnogi materion diogelu iechyd sy’n gysylltiedig â deintyddiaeth
- Yn cefnogi neu’n comisiynu prosiectau ymchwil a gwerthuso iechyd deintyddol y cyhoedd
- Yn darparu hyfforddiant yn Arbenigedd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd
Cysylltwch â ni
Ebost: [email protected]