Neidio i'r cynnwys

Archwiliad Cenedlaethol CEPP – Canolbwyntio ar bresgripsiynu gwrthfiotigau

Mae defnyddio’r gwrthfiotigau cywir dim ond pan fo’u hangen, gyda’r ddos gywir ac am y cyfnod cywir, yn hollbwysig er mwyn mynd i’r afael ag ymwrthedd cynyddol i wrthfiotigau. Nod yr archwiliadau yw:

  • Hyrwyddo presgripsiynu gwrthfiotigau yn unol â’r canllawiau presennol; gan gynnwys y Canllawiau gwrthficrobaidd gofal sylfaenol a gymeradwyir gan AWMSG.
  • Cefnogi clinigwyr gyda gwella ansawdd drwy hyrwyddo adolygu presgripsiynu gwrthficrobaidd yn eu practisau.