Rheoli haint y llwybr wrinol symptomatig ac ailadroddus mewn benywod sy’n oedolion
Dyma ganllaw ar gyfer staff meddygol, nyrsio a fferylliaeth gymunedol ac anarbenigol sy’n ymwneud â rheoli heintiau llwybr wrinol ailadroddus (UTIs). Crewyd y canllaw hwn ar gyfer menywod dros 16 oed, sydd ddim yn feichiog, ac sydd ddim â chathetr.
Diben y ddogfen yw bod yn ganllaw ymarferol i ymarferwyr gofal sylfaenol ar leihau’r risg o haint y llwybr wrinol, yn ogystal â darparu opsiynau triniaeth ar wahân i rai gwrthficrobraidd. Mae’r adran triniaeth gwrthficrobaidd wedi’i hysgrifennu i leihau’r risg o driniaeth yn methu o ganlyniad i’r ymwrthedd gwrthficrobaidd sy’n bodoli ar hyn o bryd, yn ogystal â lleihau’r risg o gael haint Clostridioides difficile neu ddatblygu ymwrthedd gwrthficrobaidd pellach.