Modiwlau e-ddysgu Haint y Llwybr Wrinol
Mae heintiau llwybr wrinol (Saesneg yn unig) (UTI) yn effeithio ar eich llwybr wrinol, gan gynnwys y bledren (cystitis), y wrethra (urethritis) a’r arennau (haint yr arennau). Fe all UTI gael ei drin gyda gwrthfiotigau, ond nid oes angen i’w defnyddio bob tro.
Gallwch atal Heintiau y Llwybr Wrinol, Heintiau sy’n Gysylltiedig â Chathetr, a dadhydradu mewn oedolion hŷn gyda modiwlau e-ddysgu ar gyfer staff gofal a gofalwyr, a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Thîm HARP Atal a Rheoli Heintiau.
- Atal dadhydradu mewn unigolion hŷn (Saesneg yn unig): Datblygwyd y modiwl e-ddysgu hwn gan Talfan Davies ac Amanda Daniel, gyda chefnogaeth y Tîm Hyfforddi ac Arwain a chyda mewnbwn gan Dîm HARP Atal a Rheoli Heintiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal neu’n gofalu am unigolion yn eu cartrefi eu hunain.