Safonau cenedlaethol ar gyfer glanhau yn GIG Cymru
Mae’r safonau hyn yn diweddaru’r Safonau Glendid Cenedlaethol a gyhoeddwyd gyntaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Gorffennaf 2003. Maent yn darparu fframwaith cymharol y gall ysbytai a Byrddau Iechyd Lleol (BILl) yng Nghymru ei ddefnyddio i nodi manylion ar gyfer darparu gwasanaethau glanhau ac asesu
glendid amgylcheddol.
Mae’r Safonau Glendid Cenedlaethol wedi cael eu hadolygu er mwyn:
- Adlewyrchu cyflwyniad y Safonau Gofal Iechyd i Gymru yn 2005, a’r symudiad oddi wrth asesu Safon Rheoli Risg Cymru 40 yn allanol gan Gronfa Risg Cymru, tuag at asesiadau mewnol yn erbyn Safonau Gofal Iechyd Cymru (yn benodol Safon 5) o 2007/08 ymlaen.
- Sicrhau bod y safonau’n ystyried y newidiadau ers cyhoeddi’r Safonau gwreiddiol, yn benodol, ond heb fod yn gyfyngedig i: adroddiad terfynol Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweinidog ar gyfer Grymuso Prif Nyrsys Ward, Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2008.
- Sicrhau bod y fethodoleg archwilio o fewn y Safonau hyn yn ymgorffori methodoleg ac ymarferoldeb yr Offeryn Monitro Cymru Gyfan. Mae hyn yn cynnwys newid yr elfennau generig a ddefnyddir wrth harchwilio.
- Cynnwys yr elfennau generig diwygiedig y mae’n rhaid archwilio’r holl wasanaethau glanhau yn eu herbyn, isafswm amlder glanhau a fframwaith cyfrifoldeb glanhau enghreifftiol.
- Adlewyrchu’r canllawiau arferion gorau o ran rheoli heintiau sydd yn ‘Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd – Strategaeth ar gyfer Ysbytai yng Nghymru’ a ‘Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd – Strategaeth Gymunedol i Gymru’.
Nid llawlyfr cyfarwyddyd glanhau yw’r Safonau hyn: maen nhw’n darparu fframwaith i gefnogi penderfyniadau lleol sy’n seiliedig ar nodi ac asesu risgiau gan gydymffurfio â chanlyniadau gofynnol y Safonau.
Yn y pen draw, mae pob Bwrdd Iechyd Lleol yn atebol am effeithiolrwydd y gwasanaethau glanhau, ac nid yw’r Safonau hyn yn darparu cyfarwyddyd ynghylch sut y dylid darparu gwasanaethau gan fod rhain yn faterion sydd i’w penderfynu’n lleol. Yn hytrach, mae’r Safonau’n darparu cyngor ac arweiniad clir ar y canlynol: beth sydd ei angen; sut all Byrddau Iechyd Lleol ddangos sut y bydd y gwasanaethau glanhau yn bodloni’r gofynion hyn; a sut i asesu perfformiad.
Dylid cymhwyso’r Safonau hyn waeth sut darperir gwasanaethau glanhau. Dylid cynnwys cydymffurfiaeth â’r manylebau a’r broses fonitro ac archwilio wrth lunio contractau â darparwyr gwasanaethau glanhau.