Gall dadhydradiad mewn tywydd cynnes arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o haint y llwybr wrinol (UTI) a heintiau difrifol eraill sy’n gysylltiedig.
Dyma rai ffeithiau allweddol i’ch helpu i atal eich cleifion rhag dadhydradu:
1
Cam 1:Dal ati i yfed
DangosCuddio
Mae hyn yn cyfateb i o leiaf 8 cwpan fawr o hylif
Mae oedolion angen o leiaf 1.5 litr o hylif bob diwrnod
Mae hyn yn cyfateb i o leiaf 8 cwpan fawr o hylif
2
Cam 2:Mae unrhyw hylif yn cyfrif
DangosCuddio
Y peth pwysicaf yw yfed digon o hylifau. Does dim ots beth yw’r hylif. Mae llawer o bobl yn ffafrio coffi a te, a does dim tystiolaeth eu bod yn cael effaith dadhydradu sylweddol
Gall bwydydd sy’n llawn hylif, e.e. jeli, hufen iâ ac iogwrt, ychwanegu at yr hylifau sydd mewn diodydd hefyd
3
Cam 3:Gwyliwch am arwyddion o ddadhydradiad
DangosCuddio
Gall croen sych neu geg sych, wrin lliw tywyll, cur pen, dryswch a bod yn gysglyd i gyd fod yn arwyddion o ddadhydradiad
4
Cam 4:Mae pobl hŷn a phlant ifanc yn fwy tebygol o ddadhydru
DangosCuddio
Gwnewch yn siŵr bod gan bawb gwpan y mae’n nhw’n gallu ei defnyddio’n ddidrafferth. Gall cwpanau sy’n drwm neu sydd â dolenni bach fod yn anodd iawn i’w dal
Efallai y bydd rhai pobl angen help i ddal cwpan ac i yfed. Peidiwch â rhoi gwelltyn i’r rhai sy’n cael trafferth llyncu, mae mwy o berygl iddyn nhw dagu
Anogwch y rhai hynny sy’n poeni am anymataliaeth i beidio â rhoi’r gorau i yfed os ydyn nhw’n poeni am wlychu. Gall wrin cryf o ganlyniad i beidio ag yfed achosi llid yn y bledren a chynyddu’r risg o haint