Tystysgrif pencampwyr ffliw
Mae Hyrwyddwr Brechu yn unigolyn sy’n cefnogi cydweithwyr iechyd a/neu ofal cymdeithasol i gael y brechiadau a argymhellir iddynt. Yn y rhaglen ffliw flynyddol mae’r unigolion hyn yn aml yn cael eu hadnabod fel ‘Hyrwyddwyr Ffliw’ ac ers sawl blwyddyn maent wedi cael eu hystyried fel adnodd o ran cynyddu nifer y gweithwyr gofal iechyd sy’n cael brechiad y ffliw.
Mae brechiadau’n ffordd bwysig i ni amddiffyn ein hunain, a’r rhai o’n cwmpas. Mae baich feirysau anadlol fel y ffliw a COVID-19 yn cynyddu’r pwysau gaeaf ar staff iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio’n galed, a’r gofynion ar y gwasanaeth.
Gyda’r risg o ffliw a COVID-19 yn cylchredeg ar yr un pryd, mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y brechiadau COVID-19 a argymhellir, a chael brechiad blynyddol y ffliw bob blwyddyn, yn bwysicach nag erioed i staff iechyd a gofal cymdeithasol. Does dim un ohonom ni eisiau dal na lledaenu’r feirysau anadlol hyn.
Gall Hyrwyddwyr Brechu deilwra gwybodaeth i ddiwallu anghenion gwybodaeth brechiad eu cydweithwyr a rhoi’r wybodaeth hon mewn ffordd sy’n cael effaith. Maent yn aml yn llais y gellir ymddiried ynddo.
Mae Hyrwyddwyr Brechu yn helpu i’w gwneud hi’n haws i staff gael eu brechiad(au).