Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd mewn plant
Mae’r tîm Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data atgyfeirio o’r System Rheoli Atgyfeirio electronig (eRMS) ar gyfer rheoli pydredd dannedd mewn plant. Rydym hefyd yn casglu data gan Fyrddau Iechyd ar nifer yr echdyniadau deintyddol a wneir i gleifion allanol o dan anesthesia cyffredinol.
Mae hyn yn darparu gwybodaeth am y gyfradd atgyfeirio gan ddeintyddion stryd fawr ar gyfer rheoli pydredd dannedd mewn plant, dosbarthiad y plant sy’n cael eu cyfeirio, nifer y plant sy’n cael echdyniad o dan anesthesia cyffredinol, a’i berthynas ag amddifadedd.
Mae’r wybodaeth a gynhyrchir yn helpu i lywio strategaethau atal ac yn galluogi GIG Cymru i gynllunio ac i ddarparu gwasanaethau deintyddol sy’n well wrth fodloni’r anghenion a nodwyd.
Adroddiadau cenedlaethol
- Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd 2023–2024
- Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd 2022–2023
- Atgyfeiriadau ar gyfer rheoli pydredd dannedd 2019–2020
Rhaglenni Ataliol Cenedlaethol ar gyfer Pydredd Dannedd mewn Plant
Mae Cynllun Gwên yn rhaglen ataliol genedlaethol i blant ifanc sydd wedi’i chynllunio i leihau lefelau pydredd dannedd ledled Cymru. Ei nod yw helpu plant i ddechrau arferion da trwy roi cyngor i deuluoedd â phlant ifanc, trwy ddarparu brwsys dannedd a phast dannedd, a thrwy annog ymweliadau rheolaidd â’r deintydd.