Egwyddorion ar gyfer defnyddio gwyddor ymddygiad yn ymarferol
Caiff y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch datblygu polisi, gwasanaeth neu gyfathrebu eu gwneud gan bobl sydd ddim yn arbenigo mewn gwyddor ymddygiad, a teg fyddai dweud nad oes angen iddynt fod yn arbenigwyr yn hyn o beth ychwaith. Er hyn, gall gwyddor ymddygiad ychwanegu gwerth at ymdrechion bron i bob ymarferydd a lluniwr polisi, a dyma un o amcanion mawr yr Uned. Mae datblygu dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol gwyddor ymddygiad a sut i’w ddefnyddio o fewn prosiect, tîm neu sefydliad yn allweddol ar gyfer cynyddu ei ddefnydd ar draws y system.
Un o’r camau cyntaf wrth ddatblygu ymyriadau newid ymddygiad yw deall beth sydd angen ei wneud, pwy sydd angen ei wneud, pryd mae angen ei wneud, ac am ba hyd er mwyn cyflawni ei amcanion: h.y. penderfynu ar yr ymddygiad targed a’r grŵp targed.
Yna mae angen i ni ddeall sut i sicrhau bod a) pob grŵp targed â’r gallu angenrheidiol i berfformio’r ymddygiad, b) bod eu hamgylchedd corfforol a chymdeithasol yn cefnogi’r ymddygiad, a c) bod mwy o gymhelliad i ymddwyn yn y ffordd dan sylw nag unrhyw ffordd arall. Enw’r broses hon o ddatblygu dealltwriaeth yw diagnosis ymddygiadol, a gallwch defnyddio’r Model Gallu-Cyfle-Cymhelliant-Ymddygiad (COM-B) i wneud hyn. Rydym yn defnyddio adolygiadau o lenyddiaeth, gwaith ymchwil sylfaenol, gwerthusiadau o ymyriadau blaenorol, ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i wneud hyn (cyn belled ag y bo’r adnoddau a’r amser yn caniatáu).
Nesaf, mae’n rhaid i ni benderfynu beth yw’r dull gorau o gyflawni, gan ddewis un neu fwy o ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth (mathau o ymyrraeth): addysg, perswâd, cymhelliant, gorfodi, hyfforddiant, cyfyngu, ailstrwythuro amgylcheddol, modelu neu alluogi. Mae i bob un o’r rhain ei gryfderau a’i gyfyngiadau, ac mae rhai yn fwy priodol mewn rhai sefyllfaoedd nag eraill.
Wedyn, gallwn benderfynu sut i weithredu’r rhain gan ddefnyddio cymysgedd o opsiynau polisi: darparu gwasanaeth neu ddatblygu cynnyrch, cynnal ymgyrch gyfathrebu neu farchnata, deddfu, cynhyrchu rheoliadau heb ddeddfu, datblygu canllawiau, defnyddio mesurau cyllidol, a/neu ddefnyddio mecanweithiau cynllunio amgylcheddol neu gymdeithasol. Yn debyg i’r gwahanol fathau o ymyrraeth, bydd rhai opsiwn gweithredu yn fwy priodol mewn rhai achosion nag eraill, ac fel arfer mae angen mwy nag un ohonynt.
Egwyddorion i’w dilyn yn ystod y broses ddatblygu
Bydd cymhwyso’r egwyddorion canlynol yn cynyddu’r siawns o ddatblygu ymyriadau sy’n bodloni’ch amcanion:

Dysgwch fwy am y canllaw i gamau’r proses ddatblygu.
Yn ôl i’r dudalen bwnc gwyddor ymddygiadol