Neidio i'r cynnwys

Menter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI)

Gwella eich cyfathrebiadau gyda gwyddor ymddygiad.

Beth yw’r Fenter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI)?

Bob blwyddyn, mae’r sector cyhoeddus a statudol yng Nghymru yn anfon miliynau o lythyrau, negeseuon testun ac e-byst at gleifion a’r cyhoedd er mwyn ceisio eu hannog i ddefnyddio ein gwasanaethau ar gyfer gwell iechyd a llesiant. Rydym yn gosod miloedd o bosteri, yn dosbarthu gwybodaeth ac yn datblygu ymgyrchoedd aml-gyfrwng gyda’r nod o ddylanwadu ar ymddygiad pobl, ac mae tystiolaeth gref y gall defnyddio gwyddor ymddygiad wneud y gwaith hwn yn fwy effeithiol.

Mae pecyn cymorth yr Uned Gwyddor Ymddygiad, Datblygu Cyfathrebiadau ar Sail Ymddygiad, wedi denu llawer o ddiddordeb ac wedi cael llawer o ddefnydd. Mae’r Uned hefyd wedi cael llawer o geisiadau am gymorth gyda chyfathrebiadau â chleientiaid/cleifion-uniongyrchol y buon nhw’n gweithio arnyn nhw gyda phartneriaid.

Mewn ymateb, sefydlodd yr Uned y Fenter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI), gyda’r nod o ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella cyfathrebu uniongyrchol – e.e. llythyrau, negeseuon testun, e-byst. Ers 2025 mae dros gant o gydweithwyr wedi ymuno â’r fenter i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella ystod eang o ddeunydd cyfathrebu.

Nod y Fenter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI)

Nod BICI yw cefnogi cydweithwyr i addasu neu ailddatblygu eu cyfathrebiadau (e.e. llythyrau, negeseuon testun, e-byst, a dulliau eraill o gyfathrebu) i ddefnyddio cynnwys sy’n seiliedig ar ymddygiad. Bydd hyn yn gwella effeithlonrwydd, yn annog pobl i ymgysylltu, ac yn hyrwyddo newid ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae’r rhaglen yn helpu cydweithwyr i gynllunio, i weithredu ac i werthuso’r gwaith er mwyn dod i ddeall ei effaith.

Mae BICI yn cynnig cyfuniad o fewnbwn uniongyrchol gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad, gwersi gan arbenigwyr o faes cyfathrebu sy’n seiliedig ar ymddygiad, gweithdai dan arweiniad, llyfr gwaith a gweithgareddau hunangyfeiriedig. Gall helpu timau i gynyddu effaith eu cyfathrebiadau ac i ddatblygu eu sgiliau gwyddor ymddygiad eu hunain.

Os hoffech weld enghreifftiau o sut mae BICI wedi helpu timau i wella eu cyfathrebiadau, gan gynnwys astudiaethau achos o bob rhan o’r system, gallwch ddarllen ein hadroddiad.

Os hoffech ddatblygu cyfathrebiadau sy’n seiliedig ar ymddygiad, beth am ddefnyddio ein llyfr gwaith, bydd yn eich tywys gam wrth gam trwy’r rhaglen BICI. Hefyd, mae ein Canllaw Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad, yn cynnig mwy o fanylion ar pam mae’r camau hyn yn bwysig.

Yn ôl i dudalen bwnc gwyddor ymddygiadol