Defnyddio gwyddor ymddygiad: Cymorth a chefnogaeth
Mae sawl ffordd o ddechrau defnyddio gwyddor ymddygiad wrth eich gwaith. Ar y dudalen hon, gallwch gofrestru i gael hyfforddiant, i fynd i ddigwyddiadau, neu i gael gymorth uniongyrchol gyda gwyddor ymddygiad trwy ein gwahanol raglenni gwaith. Gallwch hefyd gael gafael ar ein hoffer a’n canllawiau yma, a byddan nhw’n eich helpu i gael cymorth ac i ddysgu am wyddor ymddygiad yn eich amser eich hun. Mae’r rhestr isod yn sôn am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi weithio gyda’r Uned Gwyddor Ymddygiad.
Menter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI)
Bob blwyddyn, mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn cynnal Menter Cyfathrebu sy’n Seiliedig ar Ymddygiad (BICI), gyda’r nod o ddefnyddio gwyddor ymddygiad i wella cyfathrebu uniongyrchol – e.e. llythyrau, testun, e-byst.
Mae BICI yn cynnig cyfuniad o gefnogaeth uniongyrchol gan yr Uned Gwyddor Ymddygiad, gweithdai dan arweiniad, a gweithgareddau hunangyfeiriedig i helpu timau i gyfathrebu’n fwy effeithiol a datblygu eu sgiliau gwyddor ymddygiad eu hunain.
Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru
Mae Cymuned Gwyddor Ymddygiad Cymru yn cynnal digwyddiadau bob chwarter i unrhyw un sydd â diddordeb mewn Gwyddor Ymddygiad, gyda chymysgedd o sgyrsiau arbenigol, hyfforddiant, a chyfleoedd i rwydweithio.
Newyddion Gwyddor Ymddygiad
Mae Newyddion Gwyddor Ymddygiad yn e-fwletin chwarterol hawdd ei ddarllen sy’n cynnwys astudiaethau achos o wyddor ymddygiad ar waith ym mhob rhan o’r system iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys newyddion a sylwebaeth o fyd gwyddor ymddygiad, dadansoddiadau o ddamcaniaethau a chysyniadau gwyddor ymddygiad poblogaidd, a detholiad o adnoddau dan sylw i’ch helpu i ddefnyddio Gwyddor Ymddygiad wrth eich gwaith.
Cymorth wedi’i deilwra
Mae’r Uned Gwyddor Ymddygiad yn cynnig cymorth arbenigol ac amserol i geisiadau gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau iechyd a gofal a gweithwyr proffesiynol. Maen nhw’n eu cefnogi i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn eu gweithgareddau er iechyd a llesiant pobl Cymru. Os hoffech gysylltu â’r Uned i wneud cais penodol, llenwch y ffurflen isod.