Neidio i'r cynnwys

FGM (Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod)

Mae’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, wedi adolygu a diweddaru llwybr Clinigol Cymru Gyfan ar gyfer FGM, a hynny er mwyn cefnogi ymarfer proffesiynol wrth adnabod a rheoli FGM.

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywaidd (FGM) yn drosedd. Mae’n fath o drais yn erbyn menywod, ac mae’n gam-drin plant os caiff ei wneud i ferched (Gwasanaeth Erlyn y Goron y DU, 2024; Deddf FGM 2003, Deddf Troseddau Difrifol, 2015). FGM yw pan fydd organau cenhedlu menyw yn cael eu newid neu eu tynnu’n fwriadol am resymau ar wahân i rai meddygol. Mae hefyd yn cael ei alw’n anwaedu (female circumcision) neu dorri (cutting). Mae dyletswydd orfodol ar weithwyr iechyd proffesiynol rheoledig yng Nghymru i riportio achosion hysbys i’r heddlu os yw’r person dan sylw dan 18 oed. Bydd sancsiynau am beidio ag adrodd am hyn yn cael eu penderfynu gan yr awdurdod rheoleiddio ar gyfer y gweithwyr proffesiynol perthnasol. 

Mae’r canllawiau diweddaraf i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws GIG Cymru yn rhoi cyngor ar sut i ymateb yn briodol pan fo pryderon ynghylch FGM ac yn rhoi gwybodaeth am eu dyletswydd i adrodd.

Llwybr clinigol FGM

Offer archwilio