Canllawiau atal a rheoli heintiau ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru
Gan gynnwys aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych), tyllu’r corff, electrolysis a thatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol).
Mae’r canllawiau hyn ar gael i’w defnyddio gan:
- Ddeiliaid trwydded
- Ymarferwyr sy’n cyflawni triniaethau arbennig
- Perchnogion a rheolwyr busnes
- Staff sy’n gweithio mewn busnes triniaethau arbennig
- Unigolion sy’n gyfrifol am y fangre gymeradwy neu’r cerbyd cymeradwy lle mae’r driniaeth arbennig yn cael ei chyflawni
- Swyddogion Awdurdod Lleol
Y nod yw cynorthwyo cydymffurfiaeth ag amodau’r cynllun trwyddedu triniaethau arbennig gorfodol a deall yn well sut i ddefnyddio egwyddorion IP&C wrth ymarfer i amddiffyn y cleient a’r ymarferydd.