Safonau ar gyfer nodi, rheoli a thrin ag CSARO
Caiff Organebau sy’n Arwyddocaol yn Glinigol sy’n Organebau ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (y cyfeirir atynt hefyd fel MRDO) eu diffinio fel organebau sydd wedi datblygu ymwrthedd i un cyffur gwrthficrobaidd neu fwy o blith tri chategori neu ddosbarth gwrthficrobaidd neu fwy yn ogystal â micro/macro-organebau eraill sydd wedi datblygu ymwrthedd i gyffuriau a chemegau lluosog e.e. bacteria, feirysau, ffyngau a pharasitiaid. Gall CSAROs achosi niwed, cynyddu cyfraddau afiachedd a marwolaeth a pho fwyaf fydd lefel ymwrthedd yr organeb, y lleiaf o opsiynau a fydd ar gael i’w drin. Felly mae cadw gwyliadwriaeth arnynt a cheisio eu hatal a’u rheoli mewn unrhyw leoliad gofal iechyd yn allweddol er mwyn lleihau niwed ac atal heintiau cysylltiedig â gofal iechyd y gellir eu hosgoi ac atal unrhyw gynnydd mewn digwyddiadau a brigiadau o achosion.
Bydd angen i bob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth sicrhau bod prosesau a systemau cadarn ar waith ganddo/ganddi i nodi, rheoli a thrin y pathogenau hyn.
Mae’r safonau hyn yn anelu at helpu sefydliadau i feincnodi eu systemau eu hunain ar gyfer rheoli CSARO ac i’w helpu i ddatblygu dadansoddiadau o fylchau er mwyn gallu gweithredu.