Neidio i'r cynnwys

Siart llif ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru

Y broses ar gyfer mesur plant a chwblhau ffurflen ganlyniadau’r atodlen ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru.

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Rhaglen Mesur Plant Cymru

Pob plentyn ysgol (Dosbarth Derbyn) sy’n cael eu pen-blwydd yn bump oed rhwng Medi 1 ac Awst 31 y flwyddyn ysgol gyfredol.

Mae’r ffurflenni Atodlen Rhaglen Mesur Plant yn rhestru’r plant sydd mewn ysgol benodol, ac mae lle arnyn nhw i gofnodi canlyniadau ar gyfer rhaglen Mesur Plant Cymru. I gynnwys plentyn ar restr atodlen y Rhaglen, rhaid cysylltu cod yr ysgol â chofnod y plentyn. Mae’r ffurflen Atodlen hefyd yn cynnwys manylion y ddau ganlyniad taldra / pwysau / canradd BMI diwethaf a gofnodwyd.

Mae ffurflenni Rhaglen Mesur Plant Cymru heb atodlen gwag ar gael i gofnodi canlyniadau a diweddaru’r system iechyd plant os nad yw plant wedi’u rhestru ar y ffurflen atodlen.