Rhaglen Byw Bywyd di-fwg
Ymyrraeth atal ysmygu sy’n seiliedig ar dystiolaeth
Wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno i ysgolion yng Nghymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r rhaglen hon a arweinir gan gymheiriaid yn cael ei chyflwyno i ddisgyblion dylanwadol, blwyddyn 8 (rhwng 12 a 13 mlwydd oed) a adnabyddir gan gymheiriaid mewn ysgolion mewn ardaloedd lle mae plant yn wynebu’r perygl mwyaf o ysmygu. Mae’n rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r cymhelliant i’r bobl ifanc hyn drafod yn gyfforddus risgiau ysmygu a manteision bod yn ddi-fwg ymhlith eu cyfoedion, cyn iddynt gyrraedd yr oedran dechrau ysmygu arferol.
Pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu Byw Bywyd?
Mae ysmygu yn parhau i fod yn brif achos afiechyd y gellir ei osgoi, marwolaeth gynnar ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn mynd yn gaeth cyn iddynt gyrraedd 18 oed. Mae ymyrraeth i atal pobl ifanc rhag arbrofi ag ysmygu a mynd yn gaeth iddo, o bosibl, yn hollbwysig. Yn ogystal â hyn, mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl ifanc sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o ysmygu’n ifanc na’u cyfoedion mwy cefnog ac yn fwy tebygol o ddod i gysylltiad â thybaco anghyfreithlon a all hwyluso ysmygu dan oed.
Mae ‘Cymru Ddi-fwg: Strategaeth hirdymor Cymru ar gyfer rheoli tybaco’ Llywodraeth Cymru yn nodi ei huchelgais i gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, a fyddai’n golygu bod llai na 5% o’r boblogaeth yn ysmygu. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n ysmygu wedi bod wrthi cyn iddynt fod yn 18 oed, gan amlygu’r angen i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu gan eu bod yn wynebu’r perygl mwyaf o ddod yn gaeth a datblygu arferion gydol oes.
Pam ddylai ysgolion ymgysylltu?
Mae Byw Bywyd yn cefnogi pedwar diben y cwricwlwm newydd i Gymru ac ysgolion sy’n gwreiddio ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a llesiant. Trwy gyflwyno rhaglen Byw Bywyd gan hyfforddwyr atal ysmygu, mae’r llysgenhadon cymheiriaid yn dysgu am effaith tybaco ar iechyd ynghyd â’r effeithiau amgylcheddol ac economaidd; cael gwybodaeth am y diwydiant tybaco, cynhyrchu tybaco, hysbysebu, tybaco anghyfreithlon a’r tactegau a ddefnyddir i recriwtio ysmygwyr ifanc. Mae cyfle iddynt ddatblygu eu safbwyntiau a’u barn eu hunain am dybaco a dod o hyd i wybodaeth sy’n ddiddorol ac yn bwysig iddynt. Mae llysgenhadon hefyd yn datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol gan gynnwys gwrando, arsylwi, cydweithredu, trafod, dod yn wybodus, medrus a hyderus wrth siarad â’u cyfoedion am niwed ysmygu a manteision bod yn ddi-fwg.
Mae Byw Bywyd yn cyfrannu at ddull ysgol gyfan drwy alluogi ysgolion i gymryd camau i fynd i’r afael â chyfraddau uwch o ysmygu, yn seiliedig ar ddealltwriaeth glir o anghenion eu disgyblion. Mae wedyn yn cefnogi gwreiddio hyn trwy ethos a diwylliant ysgol gyfan o fod yn ddi-fwg. Mae Byw Bywyd yn rhan o system iechyd a llesiant ehangach ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru (WNHSS), Helpa Fi i Stopio a’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), ac mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r rhain.
Sut mae cael mynediad at raglen Byw Bywyd ar gyfer fy ysgol?
Mae Byw Bywyd yn rhaglen wedi’i thargedu sydd ar gael i ysgolion uwchradd yng Nghymru yn seiliedig ar gyfraddau ysmygu ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 16 mlwydd oed a nodwyd yn rownd bresennol arolwg iechyd a llesiant myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).
Os ydych wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan yn Byw Bywyd neu os hoffech gael trafodaeth am eich cymhwyster posibl, cysylltwch â [email protected]