Tîm iechyd cyhoeddus amgylcheddol
Mae iechyd cyhoeddus amgylcheddol yn ymwneud â nodi, asesu a rheoli risgiau sy’n gysylltiedig â pheryglon amgylcheddol a all effeithio ar iechyd. Mae dod i gysylltiad â pheryglon amgylcheddol ledled Cymru’n parhau i beri risgiau iechyd i unigolion a chymunedau fel ei gilydd. Gall peryglon fod ar sawl ffurf a gallant ddigwydd yn naturiol neu ddeillio o weithgareddau dynol.
Pwy ydym ni
Yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (Peryglon ac Argyfyngau Amgylcheddol – Cymru) yn cydweithio i ddarparu cyngor a chymorth iechyd cyhoeddus amgylcheddol arbenigol ac annibynnol i asiantaethau partner eraill a’r cyhoedd. Fel y bo’n briodol, rydym hefyd yn cael cyngor gan arbenigwyr epidemioleg, tocsicoleg ac arbenigwyr eraill o’r ddau sefydliad.
Nod ein gwasanaeth
Nod ein gwasanaeth yw cydweithio mewn ffordd seiliedig ar dystiolaeth i atal a lleihau cyswllt â pheryglon amgylcheddol a salwch yn sgil hynny, a chefnogi creu amgylcheddau a chymunedau iach, teg a chynaliadwy.
Ein rhaglenni gwaith seiliedig ar anghenion
Mae ein Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yn seiliedig ar gytundeb gwaith y cytunwyd arno ar y cyd a fframwaith sy’n pennu ein rhaglen seiliedig ar anghenion o waith adweithiol (i roi sylw i bryderon am iechyd cyhoeddus amgylcheddol) a phrosiectau rhagweithiol (i ddeall mwy am gyswllt a pherthnasoedd iechyd, a chysylltiadau â ffactorau penderfynu ehangach). Mae pob nod gwasanaeth yn cyd-fynd â’n hamcanion strategol:
- Ansawdd gwasanaeth a llywodraethu.
- Asesu a rheoli risg
- Gwybodaeth a deallusrwydd
- Polisi, eiriolaeth a lliniaru risg
- Bygythiadau newydd ac iechyd cyhoeddus byd-eang (gan gynnwys gweithgareddau y tu hwnt i iechyd cyhoeddus amgylcheddol)
- Capasiti a gallu