Neidio i'r cynnwys

Adnoddau ystafell ddosbarth ar gyfer iechyd y geg

Gall dysgu am iechyd y geg o oedran cynnar fod yn fanteisiol i blant drwy gydol eu bywydau, oherwydd gellir atal afiechyd deintyddol a gall dannedd iach barhau am oes. Mae llawer o ffyrdd o ddarparu profiadau dysgu ystyrlon am iechyd y geg i annog plant i ddatblygu agweddau ac arferion da. Dylai cynnwys a chyflwyniad y wers ystyried oedran y plant, gwybodaeth ac agweddau blaenorol, adnoddau a’r amser sydd ar gael.  Negeseuon allweddol i hybu iechyd y geg da yw:

  • Bwyta ac yfed yn iach
  • Brwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid
  • Mynd i weld y deintydd yn rheolaidd

Mae adnoddau dosbarth cynhwysfawr ar gael ar wefan yr Hwb, sy’n rhyngweithiol ac yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae’r adnoddau yn cynnwys cynlluniau gwersi i athrawon, cyflwyniadau a thaflenni gweithgareddau. Gellir eu defnyddio a’u haddasu ar draws camau cynnydd i gefnogi dysgu mewn gwahanol ffyrdd: sgiliau creadigol; ffurfio geiriau a datblygu deheurwydd; iechyd a bioleg; bwyd ac ymddygiad; cynnal arbrofion gwyddonol; a chyfleu gwybodaeth.

Cam cynnydd 1: Cronfa – Hwb

Cam cynnydd 2 neu 3: Cronfa Hwb