Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Cysylltiadau rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, agweddau tuag at gyfyngiadau COVID-19 a phetruster o ran y brechlyn: Astudiaeth drawsdoriadol

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 2il Chwefror 2022

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes, Kat Ford, Freya Glendinning, Hannah Madden, Sara Wood

Math o gyfeiriad: Cyfnodolyn

Crynodeb:

Dangoswyd bod trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â llesiant meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at lai o ymddiriedaeth yng ngwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar neu ragor o fathau o drawma yn ystod plentyndod nag ydoedd ymhlith y rhai nad oedd wedi profi unrhyw fath o drawma yn ystod plentyndod.

Yn Saesneg yn unig mae’r ddolen isod.

Gwelwch y ffeithlun sy’n berthnasol i’r cyfnodolyn hwn yma.

Dolenni: