Neidio i'r cynnwys
Deunyddiau Cyfeirio

Gwerthusiad Uned Atal Trais Cymru yn rhannu’r gwersi ar gefnogi partneriaethau atal trais – astudiaethau achos gwerthuso Caerdydd

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 11eg Rhagfyr 2024

Awduron: Zara Quigg, Alice Booth-Rosamond, Ellie McCoy, Chloe Smith, Rebecca Harrison, Hannah Timpson, Alex Walker

Math o gyfeiriad: Astudiaeth Achos

Crynodeb:

Mae gwerthusiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn archwilio’r dull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais, sy’n darparu gwersi allweddol ac ystyriaethau ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.

Wedi’i gynnal gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, mae’r gwerthusiad yn darparu gwersi pwysig ar sut i roi gweithgarwch atal trais ar waith yn lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy’n galluogi’r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.

Mae’r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy’n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o’r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi’r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.

Gwelwch yr adroddiad cryno yma.

Gwelwch adroddiad gwerthuso Caerdydd yma.

Gwelwch adroddiad gwerthuso Abertawe yma.

Gwelwch astudiaeth achos gwerthuso Abertawe yma.

Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho

  • Astudiaeth-Achos-Caerdydd-Uned-Atal-Trais-Cymru-yn-rhannu’r-gwersi-ar-gefnogi-partneriaethau-atal-trais

    PDF, 968 KB

    Llawrlwytho PDF