Ffliw – Cael eich amddiffyn
Gwybodaeth i bobl sy’n cael y brechlyn ffliw trwy bigiad.
Amddiffynnwch eich hun ac eraill trwy gael eich brechlyn ffliw.
Mae ffliw yn cael ei achosi gan feirws a all arwain at salwch difrifol a hyd yn oed gofal ysbyty. Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn y DU yn marw o broblemau iechyd a achosir gan y ffliw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.