Cyflawniad addysgol yng Nghymru – Mapio systemau
Yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyflawniad addysgol fel bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd a lles. Mae addysg yn chwarae rhan hanfodol wrth gynyddu disgwyliad oes a nifer y blynyddoedd rydym yn eu treulio mewn iechyd da. Mae addysg yn dylanwadu ar ein hiechyd trwy lwybrau megis cyfleoedd cyflogaeth, llythrennedd iechyd, ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, a chymorth cymdeithasol. Heb fynediad i addysg dda, gall anghydraddoldebau iechyd gynyddu drwy gylchoedd o anfantais rhwng cenedlaethau.