Hyfforddiant gofal y geg
A oes angen hyfforddiant gofal y geg ar yr holl staff gofal?
Oes! Fel pob agwedd ar ofal iechyd, mae’n hanfodol bod y staff yn cael eu hyfforddi’n gywir i ddarparu gofal yn ddiogel ac effeithiol. Mae gofal y geg yn rhan annatod o ofal o fewn lleoliadau iechyd a gofal ac mae’n fuddiannol i bob preswylydd. Mae cynnal gofal da o’r geg yn hanfodol i leihau’r risg o haint ac i wella hydradiad ac esmwythdra i’r preswylwyr.
Beth fydd y staff gofal yn ei ddysgu?
Bydd y staff yn dysgu pam mae gofal y geg da yn bwysig, a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi’r preswylwyr gyda gofal y geg a’r adnoddau sydd ar gael. Byddant yn dysgu sut i ddarparu gofal y geg da i breswylwyr sy’n ddibynnol ar ofal a strategaethau i reoli’r preswylwyr sydd angen gofal ychwanegol neu sydd â dementia.
Pwy sy’n darparu’r hyfforddiant gofal y geg?
Gellir trefnu’r hyfforddiant gyda’r tîm deintyddol Gwên am Byth lleol. Mae’n bosibl y byddant yn hyfforddi’r holl staff sy’n darparu gofal personol mewn cartref gofal, neu mae’n bosibl y byddant yn hyfforddi eiriolwyr gofal y geg a enwebwyd o fewn cartref gofal, a gefnogir i hyfforddi eu cydweithwyr.
Cysylltwch â’ch tîm Gwên Am Byth lleol i gael mwy o wybodaeth