Arwain y ffordd tuag at blaned gynaliadwy: gweithredu nodau datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig – pecyn cymorth ar gyfer sefydliadau byd-eang
Datblygwyd y pecyn cymorth Arwain y Ffordd tuag at Blaned Gynaliadwy fel rhan o’r ymateb gan yr Hyb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i gymryd camau clir a chadarnhaol i helpu sefydliadau a’u staff i ymateb i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (SDG y CU).
Gan ddarparu gwybodaeth, mae’r pecyn cymorth hefyd yn cefnogi staff, ar lefel unigol neu trwy gydweithio fel timau, i ‘weithredu newid’ trwy eu helpu i sefydlu egwyddorion datblygu cynaliadwy.