Ni yw’r newid – gweithio gartref a gweithio ystwyth cynaliadwy
Cyhoeddwyd ar: 19eg Mai 2021
Awduron: Richard Lewis, Tracy Evans
Math o gyfeiriad: Canllawiau
Crynodeb:
Rydym i gyd yn byw mewn byd cyfnewidiol ac ansicr, yn ystod argyfwng newid hinsawdd a phandemig byd-eang, sydd yn amlygu pwysigrwydd gweithredu a byw’n gynaliadwy i amddiffyn a diogelu ein byd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae Covid-19 wedi newid y ffordd y mae pobl yn byw a gweithio, gan annog gweithio gartref ar unwaith, lle bo hynny’n ymarferol a rhoi cyfleoedd i fyw’n fwy cynaliadwy.
I’r rheiny sydd yn gallu gweithio gartref, mae’r newid cyflym i weithio gartref a gweithio ystwyth wedi cyflwyno elfennau cadarnhaol a negyddol, rhai yn fwy heriol nag eraill. Bydd yr e-ganllaw hwn yn helpu unigolion i gymryd camau cynaliadwy tra’n gweithio gartref i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Deunydd cyfeirio wedi'u llawrlwytho
-
E-ganllaw_Gweithio_gartref_a_gweithio_ystwyth_cynaliadwy
PDF, 5 MB
Llawrlwytho PDF