Neidio i'r cynnwys

Iechyd deintyddol ar gyfer oedolion dibynnol

Rhaglen genedlaethol i wella iechyd y geg yw Gwên am byth a ddarperir gan Wasanaethau Deintyddol Cymunedol Cymru a’i brif nod yw gwella iechyd a hylendid y geg ymhlith pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Nodau hanfodol y rhaglen yw sicrhau bod:

  • polisi cyfredol ar waith ar gyfer gofal y geg ym mhob cartref gofal;
  • staff wedi cael hyfforddiant mewn gofal y geg (gan gynnwys mewn sesiynau cynefino) a bod y cartref yn cadw cofrestr hyfforddiant;
  • preswylwyr yn cael asesiad gofal y geg ar adegau priodol er mwyn canfod unrhyw newidiadau a fydd yn effeithio ar iechyd y geg;
  • yr asesiad yn arwain at gynllun gofal unigol, sydd wedi’i gynllunio i sicrhau hylendid y geg da sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd; a
  • bod cartrefi gofal yn ymwybodol o sut i sicrhau bod gofal a thriniaeth ddeintyddol briodol ar gael pan fo angen.

Cysylltwch â’ch tîm lleol

Os hoffech gysylltu, gallwch gysylltu â ni.

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn