Neidio i'r cynnwys

Technegau tynnu sylw i leihau pryder plentyn wrth gael brechlyn

Gall cael brechlyn fod yn frawychus i blant. Efallai eu bod yn bryderus neu’n ofni nodwyddau. Mae tynnu sylw yn ddull sy’n helpu plentyn i ymdopi yn ystod gweithgaredd mewnwthiol fel brechu. Mae’r adnodd hwn yn cynnig rhai technegau tynnu sylw y gallwch eu defnyddio i dynnu sylw’r plentyn oddi ar y brechlyn.