Ymyriadau i gynyddu teithio llesol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
- Rhyngwladol
Defnyddir teithio llesol i ddisgrifio cerdded a beicio ar gyfer teithiau pwrpasol i gyrchfan, ar ei ben ei hun neu mewn cyfuniad â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae lefelau teithio llesol yng Nghymru yn isel ar hyn o bryd o’u cymharu â gwledydd eraill yn Ewrop. Mae cynyddu teithio llesol yn brif flaenoriaeth yng Nghymru, gan gyfrannu at gyflawni pob un o saith nod llesiant Cymru.
Nod y crynodeb tystiolaeth yma yw nodi ac archwilio’r cwestiynau canlynol:
- Beth yw’r ymyriadau cyffredinol neu grŵp targed/dethol mwyaf effeithiol ar gyfer cynyddu teithio llesol yn y boblogaeth gyffredinol?
- Pa ymyriadau sydd yn arwain at newid dulliau teithio o ran defnydd y boblogaeth gyffredinol o drafnidiaeth, er enghraifft cyfyngu neu leihau’r defnydd o geir a/neu gynyddu’r defnydd o feicio, cerdded neu drafnidiaeth gyhoeddus?
Mae’r datganiadau uchod wedi cael eu llunio gan ddefnyddio tystiolaeth o 87 o astudiaethau sylfaenol oedd yn bodloni ein meini prawf cynhwysiant ar gyfer y crynodeb tystiolaeth yma. Er mwyn ystyried eu cynnwys roedd yn rhaid eu bod yn cynnwys mesur canlyniad teithio llesol (fel cerdded neu feicio) ar gyfer taith bwrpasol i gyrchfan, neu newid dull o deithio (er enghraifft, gostyngiad yn y defnydd o gar gyda chynnydd cyfatebol mewn cerdded). Mae’r datganiadau wedi cael eu categoreiddio yn ôl lleoliad.
Yn seiliedig ar ddata a echdynnwyd o’r ffynonellau a nodwyd, mae’r ymyriadau wedi cael eu categoreiddio i’r rheiny y mae’r dystiolaeth yn awgrymu allai fod yn effeithiol, gallai fod yn aneffeithiol a’r rheiny lle mae’r dystiolaeth yn amhendant.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Ymyriadau i gynyddu teithio llesol
PDF, 352KB
Llawrlwytho PDF - Ymyriadau i gynyddu teithio llesol (352 KB)
Llawrlwytho PDF