Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017: Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 24ain Awst 2022

Mae’r rhifyn hwn o Gylchlythyr Iechyd Cymru yn disgrifio’r gwaith seiliedig-ar-dystiolaeth i ailbennu ffocws Cynllun Gwên er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r rhaglen genedlaethol hon ac er mwyn sicrhau cynnydd a gwelliant parhaus yn y dyfodol.

Mae’n disodli Cylchlythyr Iechyd Cymru (2008)008 a gyflwynodd Cynllun Gwên fel dau “gynllun peilot mawr”, a’r Llythyr Gweinidogol dilynol (EH/ML/032/09) a oedd yn adeiladu ar y rhaglen gychwynnol ac yn sicrhau bod y rhaglen yn cael ei chyflawni ledled Cymru.

Mae Cynllun Gwên yn cael effaith wirioneddol ar iechyd deintyddol plant bach yng Nghymru ac rydym yn gweld lefelau gostyngol o bydredd dannedd. Mae Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arbenigwr yn Iechyd y Cyhoedd yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i roi cymorth i gyflawni’r rhaglen. Ceir tystiolaeth gynyddol y bydd plant sydd heb bydredd dannedd erbyn eu bod yn 5 oed yn profi llawer llai o bydredd dannedd trwy gydol eu hoes na phlant sydd â phydredd dannedd cyn eu bod yn 5 oed.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017 - Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant

PDF, 285KB

Llawrlwytho PDF - Cylchlythyr Iechyd Cymru 2017 - Ailbennu ffocws Cynllun Gwên, y rhaglen i wella iechyd y geg ymhlith plant (285 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig