Neidio i'r cynnwys

Pecyn cymorth amserlen imiwneiddio i blant

Mae’r ddogfen hon wedi’i chynllunio i gefnogi ymarferwyr gofal iechyd gyda’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio plant.

Mae’r amserlen imiwneiddio plant a’r rhaglen frechu ddewisol rhag hepatitis B i fabanod newydd-anedig yng Nghymru yn newid yn 2025 a 2026.

Mae’r newidiadau hyn yn dilyn argymhellion gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sef pwyllgor cynghori gwyddonol arbenigol llywodraeth y DU ar frechu ac imiwneiddio. Mae’r argymhellion yn dilyn y penderfyniad masnachol i roi’r gorau i gynhyrchu’r brechlyn Menitorix® (Hib/MenC).