Amddiffyn eich baban rhag llid yr ymennydd a septisemia
Mae’r daflen hon yn disgrifio’r brechlyn MenB a’r clefydau y mae’n helpu i’w hamddiffyn rhagddynt. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio paracetamol ar ôl cael brechiadau.
Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn eich baban rhag haint difrifol. Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn rhag clefyd meningococol, sy’n cael ei achosi gan germau a elwir yn facteria meningococol grŵp B (MenB).