Hyrwyddo iechyd deintyddol mewn meithrinfeydd ac ysgolion
Mae’n hanfodol cefnogi ysgolion a meithrinfeydd er mwyn i’r Cynllun Gwên lwyddo a gwella iechyd y geg i blant yng Nghymru. Gall lleoliadau gyfranogi mewn nifer o ffyrdd:
1) Cymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd dan oruchwyliaeth
Dylai lleoliadau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru gymryd rhan yn y rhaglen brwsio dannedd gyda chymorth llawn y tîm Cynllun Gwên hyd at flwyddyn 2 yn yr ysgol. Er mwyn darganfod a all eich ysgol neu’ch meithrinfa gymryd rhan, plîs cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên leol.
Lawrlwythwch y poster brwsio dannedd yn ysgol a meithrinfeydd i weld sut mae’r rhaglen yn rhedeg yn y lleoliadau.
Lawrlwythwch y siart brwsio dannedd i annog brwsio dannedd gartref.
2) Cefnogi’r rhaglen Farnais Fflworid
Bydd timau’r Cynllun Gwên yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd a dargedir ddwywaith y flwyddyn i gyflwyno’r rhaglen Farnais Fflworid.
3) Darparu gwersi addysg iechyd y geg i blant
Mae adnoddau dysgu ystafell ddosbarth ar gael i gefnogi dysgu am iechyd y geg.
Gwobr y Cynllun Gwên
I gydnabod ymrwymiad a chefnogaeth barhaus i’r rhaglen Cynllun Gwên, efallai y bydd eich meithrinfa neu’ch ysgol yn gymwys i gael y wobr Cynllun Gwên. Mae plac wedi cael ei ddatblygu i ddangos eich ymdrechion o ran ceisio gwella iechyd y geg pobl ifanc yng Nghymru.
Meini prawf y wobr:
- Plac heb fathodyn – i’r rhai sy’n dechrau ar y cynllun
- Bathodyn efydd – yr ysgolion hynny sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers blwyddyn
- Bathodyn arian – y rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers 2 flynedd
- Bathodyn aur – y rhai sydd wedi bod yn cymryd rhan yn y cynllun ers 3 blynedd neu fwy
*Mae pob lefel yn tybio bod brwsio dannedd rheolaidd yn digwydd.
Meddwl am yr amgylchedd
Yn 2018/19, cynhaliom asesiad o effaith amgylcheddol rhaglen y Cynllun Gwên o ran ôl troed carbon a’r defnydd o blastig, gan ein bod am anelu at yr effaith leiaf ar yr amgylchedd.
Roedd yr adolygiad yn amcangyfrif bod ôl troed carbon blynyddol y Cynllun Gwên yn cyfateb i’r carbon a gynhyrchir gan 140 o bobl yn hedfan yn ôl ac ymlaen o Lundain i Sydney, ac am bob millwn gram o wastreff plastig a gynhyrchir gan y DU, dim ond 7g a greir gan Gynllun Gwên.
Efallai ei bod yn ymddangos fel pe baem yn defnyddio llawer o frwshys dannedd a phapur, ond gwelsom fod ein gwaith cadarnhaol i atal pydredd dannedd mewn gwirionedd yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol gwaeth o ganlyniad i gleifion yn teithio i ddeintyddfeydd a’r defnfydd o offer i gywiro pydredd dannedd. Felly rydym yn achub yr amgylchedd yn ogystal ag achub gwenau!
Rydym yn annog yr holl feithrinfeydd ac ysgolion i leihau gwastraff wrth gyflawni’r rhaglen Cynllun Gwên, ac i’n cefnogi i sicrhau bod y rhaglen mor ecogyfeillgar â phosibl.