Neidio i'r cynnwys

Cyngor iechyd y geg ar gyfer rieni a gofalwyr - Brwsio dannedd gartref

Mae past dannedd fflworid yn helpu i gadw dannedd yn gryf.

  • Gall plant ddefnyddio past dannedd sy’n cynnwys fflworid (1000- 1450ppm F)
  • Brwsiwch ddannedd eich plentyn ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i’r gwely gyda’r nos
  • Ar gyfer plant o dan 3 oed, defnyddiwch haen denau o bast dannedd yn unig
  • Ar gyfer plant dros 3 oed, defnyddiwch swm sydd yr un faint â physen
  • Mae angen cymorth i frwsio ar blant o dan 8 oed
  • Peidiwch â gadael iddynt rinsio eu cegau ar ôl brwsio, yn hytrach dylent boeri’r past dannedd allan yn unig
  • POERI NID RINSIO yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio past dannedd fflworid 
  • Cofiwch fynd â brwsh a phast dannedd eich plentyn gyda chi pan fyddwch yn ymweld â theulu a ffrindiau a phan fyddwch yn mynd ar eich gwyliau
  • Hyd yn oed os bydd eich plentyn yn ymuno â rhaglen brwsio dannedd mewn meithrinfa/yn yr ysgol, mae’n dal i fod yn bwysig iddynt frwsio ei ddannedd gartref ddwywaith y dydd, yn enwedig cyn mynd i’r gwely!

Mae gwefan Magu Plant Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor ar beth i’w wneud os nad yw eich plentyn yn gadael i chi frwsio ei ddannedd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31ain Mawrth 2026