Neidio i'r cynnwys

Mynnwch eich brechiad eryr

Rydych chi’n gymwys i gael y brechlyn eryr os ydych chi’n:

  • 18 oed neu’n hŷn ac mae gennych system imiwnedd wan iawn
  • 65 oed, neu
  • 70 i 79 oed ac nid ydych wedi cael y brechlyn eto.

Peidiwch â cholli allan

Gallai’r brechlyn helpu i’ch amddiffyn rhag yr eryr. Cysylltwch â’ch meddygfa i wneud apwyntiad.