Neidio i'r cynnwys

Digwyddiadau datrysiadau tegwch iechyd

Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru (Saesneg yn unig)

Cyflwynodd y weminar hon lansiad platfform gwe arloesol newydd, Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru fel rhan o ymdrech ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd Ewrop. Rhoddodd y weminar drosolwg o sut y gall defnyddwyr ddefnyddio’r platfform i lywio gweithredu sy’n seiliedig ar atebion er mwyn lleihau anghydraddoldebau iechyd.

Blociau adeiladu ar gyfer tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol ffyniannus i fenywod yng Nghymru (Saesneg yn unig)

Archwiliodd y gweminar hwn y cysylltiadau rhwng rhywedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a thrafododd rôl polisïau rhywedd-gynhwysol wrth ffurfio economïau a systemau iechyd teg. Roedd yn gyfle i edrych ar yr anghydraddoldebau rhywedd cyffredin sy’n effeithio ar iechyd y tu hwnt i wasanaethau iechyd.

Deall y bwlch iechyd: Defnyddio dadansoddiad dadelfennu Blinder-Oaxaca fel offeryn i ddatrys tegwch iechyd (Saesneg yn unig)

Cyflwynodd y gweminar hwn brofiadau a mewnwelediadau ar ddadansoddiadau dadelfennu’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), gyda thrafodaeth ymhlith nifer o wledydd ar ddulliau a chanfyddiadau (Cymru, yr Eidal a Slofenia). Mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd y mae defnyddio methodoleg arloesol dadansoddi dadelfennu wedi arwain at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhanbarthau eraill.

Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru: Ffordd ymlaen (Saesneg yn unig)

Mae’r weminar hon yn cyflwyno’r cysyniad Deddf Gofal Gwrthgyfartal ac yn archwilio’r Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Ngogledd Cymru. Gwnaeth arddangos strategaethau a mentrau addawol a ddefnyddir yng Nghymru a’u canlyniadau sydd a’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ar lefelau polisi yng Nghymru.