Y broses o ddatblygu polisi
Camau datblygu polisi
-
1
Cam 1:Cam 1: Diffinio'r broblem a'i hachosion sylfaenol
DangosCuddio- Egluro a fframio’r broblem neu’r mater o ran yr effaith y mae’n ei chael ar iechyd y boblogaeth.
- Casglu, crynhoi a dehongli gwybodaeth sy’n berthnasol i’r broblem.
- Diffinio nodweddion y broblem.
- Nodi bylchau yn y data.
- Fframio’r broblem mewn ffordd sy’n hwyluso datrysiadau posibl.
- Gwneud cysylltiadau ac integreiddio ag effeithiau eraill sydd ddim yn rai iechyd.
- Ymgysylltu â’r rhai sydd â diddordeb yn y broblem.
Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â diffinio achosion sylfaenol y broblem.
-
2
Cam 2:Cam 2: Datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol
DangosCuddio- Datblygu gweledigaeth hirdymor, neu gyfeirio at weledigaeth o’r fath, lle mae’r broblem dan sylw a’i hachosion sylfaenol yn cael eu datrys.
- Ystyried pa dueddiadau hirdymor all gael eu heffeithio gan eich gweledigaeth neu a all effeithio ar eich gweledigaeth.
- Meddwl am y canlyniadau rydych chi eisiau eu cyflawni a beth yw llwyddiant i chi/sut y gallwch ei fesur.
- Ystyried a oes gweledigaethau eraill ar gyfer y dyfodol a allai gefnogi neu wrthdaro â’ch un chi.
- Cyfeirio at y weledigaeth ar gyfer Cymru ar ffurf y 7 nod llesiant.
- Cynnal asesiadau effaith priodol/asesiadau o’r effaith ar iechyd.
- Adeiladu perthnasoedd, ailadrodd eich neges a gofyn cwestiynau.
Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â datblygu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.
-
3
Cam 3:Cam 3: Nodi a datblygu opsiynau
DangosCuddio- Nodi opsiynau polisi posibl a allai helpu i ddatrys eich problem ac i gyflawni eich gweledigaeth chi a gweledigaeth Cymru.
- Cymharu’r opsiynau hynny er mwyn dewis yr un mwyaf effeithiol, effeithlon a dichonadwy a fyddai’n helpu i greu manteision trawsbynciol .
- Gosod amcanion, nodi’r gost ac amcangyfrif effaith atebion, dewis o wahanol opsiynau polisi.
- Mae ymgynghoriadau’n allweddol wrth lywio datblygiad polisi.
- Datblygu perthnasoedd â llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill.
- Annog partneriaid i weithredu a chreu mudiad o amgylch y mater er mwyn i’r neges yn cael ei chlywed yn glir.
- Enghreifftiau o feysydd lle mae polisïau tebyg wedi’u cyflawni – gwersi a ddysgwyd y naill ffordd neu’r llall
Darllenwch ddeunyddiau sy’n ymwneud â nodi a datblygu opsiynau.
-
4
Cam 4:Cam 4: Gwneud penderfyniadau 'gwleidyddol' (deddfu gwleidyddol, pasio deddfwriaeth)
DangosCuddio- Addysgu seneddwyr a’r cyhoedd a chasglu cefnogaeth.
- Rhagweld rhwystrau.
- Os oes angen, parhau i gasglu data a gwneud gwaith ymchwil.
- Cydweithio â phartneriaid, sy’n gallu ‘lobïo’ ac adeiladu mudiad o amgylch y mater (e.e. y sector gwirfoddol a chomisiynwyr).
- Adrodd straeon.
-
5
Cam 5:Cam 5: Gweithredu'r polisi (troi cysyniad yn realiti)
DangosCuddio- Gweithgareddau i gynyddu’r tebygolrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei fwriadau.
- Addysgu ar newidiadau, hwyluso’r gwaith o fabwysiadu arferion newydd.
- Sicrhau monitro a gorfodi
-
6
Cam 6:Cam 6: Gwerthuso llwyddiant a therfynu, ailddiffinio neu gyflwyno'n briodol
DangosCuddioGwerthuso prosesau.
- A weithredwyd y polisi yn ôl y cynllun?
- A oedd rhwystrau neu ffactorau cefnogol wrth ei weithredu?
- Pa mor dda oedd eich gwaith i ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac a oedden nhw’n teimlo eu bod wedi’u cynnwys yn y broses?
Gwerthusiad o’r effaith
- A gafwyd y canlyniadau a’r effeithiau a fwriadwyd?
- A oes unrhyw ganlyniadau ac effeithiau y gellir eu priodoli i’r polisi?
- A oedd unrhyw ganlyniadau anfwriadol?