Neidio i'r cynnwys

HealthEquityDigest

Y Rheoliadau Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (Cymru) Newydd: Fframwaith ar gyfer hyrwyddo tegwch iechyd yng Nghymru

Mae Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (HIA) yn ddull sy’n dwyn ynghyd gyfuniad o weithdrefnau, dulliau ac offer i werthuso sut y gallai penderfyniad, menter, polisi, rhaglen neu brosiect arfaethedig effeithio ar iechyd poblogaeth.

Defnyddio gwyddor ymddygiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd

Mae’r blog hwn yn rhoi sylw i’r her hollbwysig o ddylunio ymyriadau iechyd. Mae’n cyflwyno cysyniadau allweddol gwyddor ymddygiadol ac yn dangos sut mae’r Uned Gwyddor Ymddygiadol yn cefnogi’r broses o’u cymhwyso, ynghyd â chyfeirio at gyfres o adnoddau i gefnogi iechyd cyhoeddus tecach.

Mynd i’r afael â thlodi plant: Model polisi’r Alban

Mae’r erthygl yma yn dadansoddi dull yr Alban o fynd i’r afael â thlodi plant trwy bolisi, buddsoddi, a mabwysiadu lens iechyd cyhoeddus, a’r gwersi y gallai gwledydd eraill eu dysgu o hyn.

Ecwiti ar waith: Hyrwyddo iechyd LHDTCRhA+ yng Nghymru

Mae anghydraddoldebau iechyd ymhlith y cymunedau LHDTCIA+ yng Nghymru yn her ddybryd. Er gwaethaf datblygiadau o ran hawliau cyfreithiol a chael eu derbyn gan gymdeithas, mae unigolion LHDTCIA+ yn parhau i wynebu gwahaniaethau sylweddol mewn iechyd meddwl, iechyd rhywiol, a mynediad at ofal iechyd. Nid yw’r materion hyn yn unigryw i Gymru, maen nhw’n adlewyrchu tueddiadau ehangach y DU ac yn rhyngwladol.

Gwella addysg, sgiliau a chyflogaeth yn Coventry: Dull dinas Marmot

Mae’r erthygl yma yn grynodeb o’r hyn a ddysgwyd a’r dull a fabwysiadwyd gan Coventry, sy’n Ddinas Marmot, ac yn tynnu sylw at sut y gwnaeth wella addysg, sgiliau a chyflogaeth.

Mynd i’r afael â’r ddeddf gofal gwrthgyfartal: Lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru drwy ymarfer cyffredinol a phartneriaethau seiliedig ar leoedd

Mae’r erthygl yma’n edrych ar enghreifftiau o’r Gyfraith Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru, ochr yn ochr â strategaethau a mentrau ledled Cymru sy’n anelu at leihau anghydraddoldebau drwy Ymarfer Cyffredinol a thrwy bartneriaethau seiliedig ar leoedd.

Gweithio tuag at degwch iechyd – fframweithiau ac offer i helpu datblygu dull strategol

Mae gweithio tuag at degwch iechyd yn dasg heriol, ond mae’n hanfodol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio eich cefnogi yn y gwaith hwn, beth bynnag fo’ch gwaith, a hynny trwy lunio ystod o offer cenedlaethol a rhyngwladol i lywio’r gwaith hwn mewn gwahanol gyd-destunau.

Penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol llewyrchus i fenywod yng Nghymru

Wrth fynd ar drywydd iechyd a llesiant i bobl Cymru, rhaid i wahanol elfennau sylfaenol gael eu sefydlu’n gadarn. Mae’r elfennau hyn, sy’n aml yn cael eu galw’n flociau adeiladu iechyd, yn cwmpasu hanfodion gan gynnwys tai diogel, cyflogaeth ystyrlon, sefydlogrwydd ariannol, plentyndod diogel, a chysylltiadau cymunedol cadarn.

Dosbarth meistr gwerth cymdeithasol: Mesur gwerth iechyd y cyhoedd

Dosbarth meistr ar-lein ar y cysyniad o werth cymdeithasol a sut caiff ei ddefnyddio i wella dealltwriaeth ac i asesu gwerth cyfannol ehangach iechyd y cyhoedd.

Gwella cydraddoldeb iechyd trwy roi dechrau gorau i bob plentyn yn eu bywyd

O bob grŵp oedran yng Nghymru, plant sydd â’r risg uchaf o dlodi: mae bron i un o bob tri, neu 28%, o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol, ac mae plant mewn teuluoedd mwy, teuluoedd un rhiant neu teuluoedd di-waith mewn perygl arbennig o uchel.

Gwent teg i bawb: Rhanbarth Marmot cyntaf Cymru

Mae llawer o ffactorau o fewn cymdeithas, yr economi a’r amgylchedd sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant pobl. Mae anghydraddoldebau o fewn y ffactorau hyn, sef y penderfynyddion cymdeithasol iechyd, e.e. dosbarthiad anghyfartal cyfoeth ac adnoddau anghyfartal, yn gyrru’r amodau y mae pobl yn byw ynddynt ac yn creu gwahaniaethau annheg ac anghyfiawn o fewn cymdeithasau.

Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru

Mae Llwyfan Datrysiadau Ecwiti Iechyd Cymru yn lwyfan digidol a lansiwyd ar 22 Mehefin, 2023. Roedd y weminar pan lansiwyd y llwyfan yn rhoi trosolwg o’r gweithgareddau a gynlluniwyd yn y dyfodol a rhoddodd gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch gymryd rhan yn y gwaith o gyd-gynhyrchu atebion, datblygu astudiaethau achos a chyfrannu at ddysgu ar gamau gweithredu sy’n seiliedig ar atebion i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Deall y bwlch iechyd: Defnyddio Dadansoddiad Dadelfennu Blinder-Oaxaca fel offeryn i ddatrys tegwch iechyd

Mae dadansoddiad dadelfennu Blinder-Oaxaca yn ddull ystadegol o ddadansoddi, sy’n anelu at fesur y bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi gwell dealltwriaeth o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau iach a llewyrchus i bawb.

Yr argyfwng costau byw: Goblygiadau i iechyd y cyhoedd a nodi atebion adroddiad

Mae adroddiad Yr Argyfwng Costau Byw: Goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd a Nodi Atebion yn crynhoi’r hyn a ddysgwyd o weminar y Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi ei hwyluso gan Ganolfan Gydweithredu WHO yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Medi 2022.