Crynodeb o ganllawiau NICE ar annog mwy i gael eu brechu rhag y ffliw
Ym mis Awst 2018, cyhoeddodd NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal) ganllawiau ar annog mwy o bobl o grwpiau cymwys i gael eu brechu rhag y ffliw. Cafodd y canllaw ei ddatblygu gan bwyllgor a oedd yn cynnwys arbenigwyr pwnc. Ystyriodd y pwyllgor arferion cyfredol, tystiolaeth, barn arbenigol a modelu economaidd. Cewch drosolwg o drafodaeth y pwyllgor, gan gynnwys eu rhesymeg, effaith ac ansawdd, a bylchau yn y dystiolaeth sydd ar wefan NICE (Saesneg yn unig).