Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi – Amheuir ffenylcetonwria (PKU)

Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo ffenylcetonwria (PKU) neu gyflwr cysylltiedig. Mae angen profion pellach ar eich babi nawr i weld a oes ganddo PKU ai peidio.

Mae’r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am PKU ac yn esbonio beth sy’n digwydd nesaf.