Canlyniad sgrinio eich babi – Amheuir hypothyroidedd cynhenid (CHT)
Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo hypothyroidedd cynhenid (CHT). Mae angen profion pellach ar eich babi nawr i weld a oes ganddo CHT ai peidio.
Mae’r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am CHT ac yn esbonio beth sy’n digwydd nesaf.