Canlyniad sgrinio eich babi – Cludydd Haemoglobin O Arab
Mae canlyniadau prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn dangos nad oes gan eich babi anhwylder y crymangelloedd.
Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n dangos bod eich babi’n cludo un genyn anarferol ar gyfer haemogloblin, o’r enw haemoglobin OArab, ac un genyn arferol. Mae hyn wedi’i ysgrifennu fel Hb A OArab ac fe’i gelwir yn gludydd haemoglobin OArab.
Haemoglobin yw’r sylwedd yn y gwaed sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff.
Mae tua phedwar o fabanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn â chanlyniad sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig cludydd haemoglobin anarferol.
Mae’r wybodaeth hon yn esbonio beth mae bod yn gludydd genyn haemoglobin anarferol yn ei olygu i’ch babi, i chi a’ch teulu ehangach.