Canlyniad sgrinio eich babi – Cludydd Haemoglobin C
Mae canlyniadau prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn dangos nad oes gan eich babi anhwylder y crymangelloedd.
Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n dangos bod eich babi’n cludo un genyn anarferol ar gyfer haemogloblin, o’r enw haemoglobin C, ac un genyn arferol. Mae hyn wedi’i ysgrifennu fel Hb AC ac fe’i gelwir yn gludydd haemoglobin C.
Haemoglobin yw’r sylwedd yn y gwaed sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff.
Mae tua phedwar o fabanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn â chanlyniad sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig cludydd haemoglobin anarferol.
Mae’r wybodaeth hon yn esbonio beth mae bod yn gludydd genyn haemoglobin anarferol yn ei olygu i’ch babi, i chi a’ch teulu ehangach.