Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2022-23
Cyhoeddwyd ar: 21ain Gorffennaf 2025
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan y Rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2022 hyd at ddiwedd Mawrth 2023. Mae
canlyniadau’n cael eu hadrodd gan fwrdd iechyd lle mae sgrinio wedi’i gynnal. Mae rhagor o fanylion ar gael ar gais.
Penawdau ystadegau
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
- Nifer y genedigaethau cymwys ar draws Cymru oedd 28,313.
- Nifer y babanod a brofwyd oedd 28,178 (99.5%).
- Roedd 96.5% o fabanod newydd-anedig cymwys wedi cael cerdyn smotyn gwaed (ar gyfer sgrinio neu ddirywiad) yn y labordy erbyn diwrnod pedwar ar ddeg eu bywyd (cyflawnder y
cynnig). - Roedd gan 95.0% o fabanod newydd-anedig cymwys ganlyniadau sgrinio smotyn gwaed terfynol erbyn diwrnod dau ar bymtheg o’u bywyd (cwmpas).
- Cymerwyd 95.2% o samplau smotyn gwaed cyntaf rhwng diwrnodau 4 a 6 eu bywyd.
- Cymerwyd 54.4% o samplau ar ddiwrnod 5 eu bywyd, yn unol ag argymhellion y rhaglen.
- Y gyfradd ailadrodd y gellid ei hosgoi oedd 2.8%.
- Roedd gan 99.9% o gardiau smotyn gwaed a dderbyniwyd yn y labordy rif GIG dilys ar gyfer y babi wedi’i gofnodi.
- Derbyniwyd 85.1% o gardiau smotyn gwaed o fewn 3 diwrnod gwaith i gasglu sampl.
- Roedd nifer y babanod a sgriniwyd yn bositif a ganfuwyd yn y flwyddyn fel a ganlyn: ffenylcetonwria (4),clefyd wrin surop marsan (0), diffyg didhydrogenas acyl-CoA cadwyn ganolig (6), homocystinuria (1), asidwria glwtaraidd math 1 (0), isovaleric acidaemia (4),isthyroidedd cynhenid (27), ffeibrosis systig (16) ac anhwylderau clefyd y crymangelloedd (4). Mae’r rhain yn ganlyniadau sgrinio’n bositif, ni chafodd pob babi ddiagnosis o’r cyflwr a amheuir.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2022-23
PDF, 872KB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad Ystadegol Blynyddol Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru 2022-23 (872 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2021-22
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2021 i ddiwedd Mawrth 2022. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2020-21
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2020 i ddiwedd Mawrth 2021. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2019-20
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2019 i ddiwedd Mawrth 2020. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2018-19
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2018 i ddiwedd Mawrth 2019. […]
Cyhoeddwyd:
-
Adroddiad ystadegol blynyddol sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig 2017-18
Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb manwl o wybodaeth am waith a wnaed gan wasanaeth Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2017 i ddiwedd Mawrth 2018. […]
Cyhoeddwyd:
-
Polisïau a safonau sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig
Adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gyfrifol am gynllunio, paratoi a chyflawni rhaglen Sgrinio Smotyn Gwaed Newydd-anedig Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnig sgrinio smotyn gwaed i bob babi newydd-anedig sy’n […]
Cyhoeddwyd: