Canllawiau ar wahodd gweithwyr gofal iechyd i gael brechiad ffliw
Mae’r adnodd hwn yn cynnig canllawiau ymarferol at sut i gysylltu â gweithwyr gofal iechyd a’u gwahodd i gael brechiadau ffliw tymhorol. Mae gweithwyr gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol wrth amddiffyn eu cleifion, eu cydweithwyr a’u hunain rhag y ffliw, ac mae sicrhau bod cyfradd uchel o’r grŵp hwn yn cael eu brechu yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd diogel a gwydn.