Siart rheoli ar gyfer rhoi brechiadau ffliw i unigolion sydd ag alergedd wyau
Mae’r adnodd hwn yn rhoi canllawiau clinigol ar roi brechlynnau ffliw yn ddiogel i unigolion sydd ag alergeddau wyau. Mae’r siart rheoli yn dangos dull eglur, fesul cam i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddewis opsiwn brechu priodol yn seiliedig ar ddifrifoldeb yr alergedd a hanes y claf.
Mae sawl brechlyn ffliw ar gael, rhai ohonynt ddim yn cynnwys wy, a bydd yr offeryn hwn yn helpu i sicrhau bod plant ac oedolion yn cael eu brechu mewn ffordd wybodus, diogel ac effeithiol, gan gynnwys y rhai sydd â hanes o gael adweithiau alergaidd difrifol.